Geiriad y Ddeiseb
Yr ydym ni, y cynrychiolwyr a lofnodir isod, yn deisebu Cynulliad Cenedlaethol Cymru i osod cyfrifoldeb penodol ar awdurdodau lleol i fod yn ymwybodol o’u dyletswyddau dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd a’r Ddyletswydd Cydraddoldeb Anabledd, a chydymffurfio â hwy drwy beidio â chreu canol trefi, strydoedd mawr na strydoedd preswyl gydag arwynebau a rennir sy’n gwahaniaethu yn erbyn pobl ddall a phobl sy’n gweld yn rhannol a phobl anabl eraill, gan eu hallgáu i bob pwrpas o amgylchedd y stryd.
Linc i’r ddeiseb: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=866&optionId=0
Cyflwynwyd gan: Cwn Tywys y Deillion
Nifer y llofnodion: 10